Skip to main content

Bara Brith (Aberteifi)

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd plaen
tair owns o ymenyn
tair owns o siwgr
ychydig o halen
chwech owns o ffrwythau cymysg
hanner owns o furum
hanner peint o laeth
wy
ychydig o nytmeg

Dull

Cynhesu’r ymenyn a’r llaeth mewn sosban.
Rhoi’r defnyddiau sych mewn padell gynnes ynghyd â’r burum wedi’i friwsioni’n fân.
Curo’r wyau, eu harllwys ar yr ymenyn a’r llaeth cynnes, a’u cymysgu’n raddol i mewn i’r blawd i wneud toes meddal.
Rhoi’r toes i godi mewn lle cynnes nes gwelir bod ei faint gwreiddiol wedi dyblu.
Yna tylino’r toes ar fwrdd pren, ei lunio’n dorth a’i roi mewn tun bara.
Gadael i’r torth godi eto yn y tun am ychydig o amser cyn ei rhoi mewn ffwrn weddol boeth.
Ei chrasu yno am ryw awr o amser.

Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
826
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment