Bara Brith (Y Bala, Meirionnydd)
Disgrifiadau
Cynhwysion
dau bwys o flawd
owns o furum
deuddeg owns o ymenyn
chwech owns o siwgr coch mân
chwech owns o gyrens
chwech owns o syltanas
tair owns o resins
dwy owns o bîl candi
hanner llond llwy de o halen
dau wy
ychydig o nytmeg neu sbeis
llond llwy bwdin o driagl du
llefrith cynnes
dŵr cynnes
Dull
Cynhesu’r badell a’r blawd cyn dechrau.
Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, ychwanegu’r holl ddefnyddiau sych a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a hanner llond cwpan o lefrith cynnes.
Gwneud pant yng nghanol y defnyddiau sych a thywallt y burum a’r siwgr iddo.
Taenu ychydig o’r blawd dros wyneb y burum, a’i adael i godi mewn lle cynnes am rai munudau.
Yna curo’r wyau, eu tywallt i mewn i’r cymysgedd a dechrau tylino’r toes â llaw.
Toddi’r triagl du mewn dŵr cynnes a’i ychwanegu at y toes fel y bo angen wrth dylino.
Rhoi lliain dros wyneb y badell a’i gadael eto mewn lle cynnes am ryw awr er mwyn i’r toes godi.
Iro’r tuniau a’u rhoi mewn lle cynnes.
Yna codi’r toes ar fwrdd pren a blawd arno, ei rannu a’i foldio’n dorthau yn ôl maint a ffurf y tuniau.
Crasu’r torthau mewn popty gweddol boeth am tua awr a hanner.
Y Bala, Meirionnydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment