Skip to main content

Bara Llaeth Wedi’i Grasu

Disgrifiadau

Cynhwysion

tafell o fara
llaeth enwyn  oer

Dull

Crasu tafell o fara a’i briwo  i bowlen.
Tywallt llaeth enwyn oer drosto a’i adael i fwydo  am awr neu ddwy cyn ei fwyta.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Dull

Crasu tafell o fara a’i briwo i bowlen.
Tywallt llaeth enwyn oer drosto a rhoi plât ar wyneb y bowlen.
Rhoi’r bowlen mewn popty cynnes a’i gadael yno nes bod y bara wedi chwyddo.

Llanfachreth, Môn.

Er mai ar dywydd cynnes yn unig y bwyteid bara llaeth wedi’i grasu mewn rhai ardaloedd, ystyrrid ef yn bryd cyffredin i swper gan lawer drwy gydol yr haf.

Yr oedd hi’n arfer hefyd i’w roi mewn ‘can’ a’i gario allan i’r gweithwyr adeg y cynhaeaf, e.e. Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
930
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment