Siencyn
Siencyn
Disgrifiadau
Cynhwysion
dŵr berw
tafell o fara
lwmp o doddion neu o ymenyn
halen a phupur
Dull
Malu’r bara i bowlen, a thywallt dŵr berw drosto.
Rhoi lwmp o doddion neu ymenyn ynddo a’i flasu â phupur a halen.
I frecwast y bwyteid hwn fel rheol.
Banwy Uchaf, Trefaldwyn.
Siencyn Te
Defnyddio te yn lle dŵr berw, ei flasu â siwgr, a thywallt ychydig o laeth ar ei wyneb.
‘Roedd siencyn a darn o gaws yn bryd cyffredin i frecwast neu i swper yn y cymoedd diwydiannol.
Dowlais, Morgannwg.
‘Sop’ oedd yr enw ar y bwyd hwn mewn ardaloedd eraill yn ne Cymru, e.e.
Ystalyfera, Morgannwg.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment