Maidd yr Iâr
Disgrifiadau
Cynhwysion
tafell dew o fara
wy neu ddau
hanner peint o lefrith
ychydig o nytmeg, sinsir a siwgr
Dull
Malu’r bara i sosban.
Curo’r wyau’n dda a’u tywallt ynghyd â’r llefrith ar y bara.
Ychwanegu’r sinsir, y siwgr a’r nytmeg atynt.
Rhoi’r sosban wrth ymyl y tân nes bod y cynnwys yn gynnes ond heb ferwi.
Gellir ei grasu mewn popty gweddol boeth os dymunir.
Caergybi, Môn.
Dull
Malu’r bara i bowlen.
Curo’r wy yn dda, rhoi llefrith poeth (heb fod yn berwi) arno a’u tywallt ar y bara yn y bowlen.
Ychwanegu halen a siwgr, yn ôl y dewis.
Rhoi plât ar wyneb y bowlen a’i adael i sefyll am ychydig o amser cyn ei fwyta.
Llanfachreth, Môn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment