Llymru
Disgrifiadau
Cynhwysion
- llond dysgl o flawd ceirch (neu flawd llymru)
- chwart o ddŵr oer
- hanner llond cwpan o laeth enwyn
Dull
- Rhoi’r blawd ceirch yn wlych yn y dŵr oer a’r llaeth enwyn a’i adael i suro am ryw dri neu bedwar diwrnod.
- Yna hidlo’r cymysgedd drwy ogr mân gan wasgu’r trwyth yn llwyr o’r blawd.
- Berwi’r trwyth yn gyflym mewn sosban a’i droi’n gyson â phren llymru (neu lwy bren).
- Codi ychydig o’r cymysgedd ar flaen y pren, ac os gwelir ei fod yn ffurfio cynffon fain wrth ddisgyn yn ôl i’r sosban ystyrrir bod y llymru wedi berwi i’r ansawdd priodol.
- Tywallt y llymru i ddysgl fawr ar ôl ei gwlychu â dŵr oer ymlaen llaw, a’i adael i oeri ryw gymaint. Byddid yn ei fwyta mewn llefrith oer neu ddŵr a thriog.
Llanuwchllyn, Meirionnydd.
Bwyteid llymru i frecwast neu i swper, yn arbennig ym misoedd yr haf.
Llangwnadl, Caernarfon.
Yr oedd llymru yn fwyd di-guro pan fyddai anhwyldeb yn yr arennau.
Llanuwchllyn, Meirionnydd.
Yr un bwyd yn ei hanfod yw’r hwn a elwir yn ‘llymru’ yn siroedd gogledd Cymru â’r ‘sucan’ neu’r ‘uwd sucan’ a ddisgrifir isod. Mewn llythyr at ei frawd Rhisiart, y mae Lewis Morris yn ysgrifennu yn y flwyddyn 1760 ‘…toccins yw arian cochion yn sir Faesyfed a sucan neu uwd y gelwir llymru yno’.
‘Roedd y pren a ddefnyddid i droi’r llymru yn amrywio o ran enw ac o ran maint a ffurf, e.e., gelwid ef yn ‘myndl’ yn sir Drefaldwyn, ‘mopran’ neu ‘bren llymru’ yn sir Gaernarfon, ac ‘wtffon’ neu ‘rhwtffon’ yn sir Feirionnydd.
Clywir adrodd y cwpledau a’r dywediadau canlynol ar lafar gwlad:
Llymru lled amrwd
I lenwi bol yn lle bwyd.
Llangybi, Caernarfon.
Llymru llwyd da i ddim
Ond i lenwi bol rhag isho bwyd.
Parc, Meirionnydd.
Cyn llwyted â llymru.
Croen uwd a chreifion llymru.
Gwerin Eiriau Sir Gaernarfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment