Skip to main content

Siot

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • torth geirch heb saim ynddi.
  • llaeth enwyn  oer

Dull

  • Malu’r dorth geirch yn fân â malwr bara ceirch  neu rolbren.
  • Rhoi’r bara mâl mewn dysgl a thywallt ychydig o laeth enwyn oer arno.
  • Ei fwyta ar unwaith neu ei adael i fwydo am awr neu fwy, yn ôl y dewis.
  • Gellir tywallt ychwaneg o laeth enwyn arno wrth ei fwyta.

Llanuwchllyn, Meirionnydd.

‘Roedd hwn yn fwyd hwylus i’w gario allan i’r caeau adeg y cynhaeaf fel tamaid rhwng prydau i’r gweithwyr, ac yr oedd plant yn hoff o’i gario i’r ysgol ar gyfer eu cinio yn yr haf.

Prion, Dinbych.

Yr oedd bri mawr ar fwyta siot i de prynhawn mewn llawer ardal yn ystod misoedd yr haf. Nid oedd dim yn well i dorri syched ar ôl treulio rhai oriau allan ar y cae gwair.

Ceir amrywiadau ar y bwyd hwn, e.e.,

Siot gynnes – tywallt llaeth enwyn cynnes ar y bara ceirch.

Siot bosel – tywallt llefrith cynnes ar y bara ceirch ac ychydig o laeth enwyn oer ‘yn ei lygad’.

Siot faidd – defnyddio maidd yn lle llaeth enwyn ar ddiwrnod ‘ceulo’.

Y Parc, Meirionnydd.

‘Picws mali’ yw’r enw a arferir ar y bwyd hwn mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, e.e. Mynytho, Caernarfon.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
702
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment