Skip to main content

Brŵes Bara Ceirch

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • torth geirch heb saim ynddi
  • potes cig eidion
  • pupur a halen

Dull

  • Malu’r dorth geirch yn fân â malwr bara ceirch  neu rolbren, a’i roi mewn powlen.
  • Tywallt potes poeth arno a’i flasu â phupur a halen.
  • Ei adael i chwyddo am rai munudau cyn ei fwyta.

Uwchmynydd, Llŷn.

Arferid ei fwyta’n rheolaidd i frecwast bob dydd Sul a dydd Mercher yn Llŷn.

Brwes trodnoeth neu brwes pig tegell y gelwid yr hwn a baratoid drwy roi ychydig o saim ar wyneb y bara ceirch a thywallt dŵr berw arno.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
800
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment