Skip to main content

Cawl Llaeth

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • tua peint o laeth di-hufen
  • llond llwy fwrdd o flawd ceirch
  • ychydig o ddŵr oer
  • ychydig o halen

Dull

  • Cymysgu’r blawd ceirch â’r dŵr oer nes eu bod yn llyfn.
  • Berwi’r llaeth, arllwys y cymysgedd blawd ceirch iddo a’i godi i’r berw drachefn.
  • Yna rhoi ychydig o halen ynddo.

Bwyteid hwn i frecwast neu i swper fel rheol.

Rhydlewis, Aberteifi.

‘Potes llaeth’ y gelwid y bwyd hwn ym Môn, ac fe’i tywelltid ar fara mewn powlen, e.e. Llanfachreth, Môn.

Arferid yr enw ‘twym llaeth’ ar yr un bwyd yn sir Gaerfyrddin, e.e.

Caeo, Caerfyrddin.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
855
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment