Skip to main content

Bwdram

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • llond dysgl o flawd sucan – neu flawd ceirch
  • chwart o ddŵr claear

Dull

  • Rhoi’r blawd sucan yn wlych yn y dŵr claear dros nos.
  • Yna ei hidlo drwy ogr mân gan ychwanegu ychydig o ddŵr ato os bydd y trwyth yn rhy dew.
  • Berwi’r trwyth mewn sosban a’i droi’n ddibaid am ryw bum munud.
  • Malu bara i ddysgl a thywallt y bwdram arno.

Rhydlewis, Aberteifi.

‘Roedd hwn yn fwyd cyffredin ar gyfer swper mewn rhai ardaloedd a cheir tystiolaeth fod bwdram ac ysgadan ffres yn bryd arbennig yn ardal Aber-porth ar yr un adeg, e.e. Brynhoffnant, Aberteifi.

‘Roedd bwdram yn cael ei roi yn fwyd i’r fam ar ôl iddi eni plentyn; rhoid siwgr, ymenyn a sinsir ynddo i’w flasu.

Cwm-bach, Caerfyrddin.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
698
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment