Griwel Blawd Ceirch
Griwel Blawd Ceirch
Disgrifiadau
Cynhwysion
- *blawd ceirch
- dŵr oer
- llefrith oer
- halen a siwgr
Dull
- Rhoi mesur o flawd ceirch mewn llestr pridd, tywallt dŵr oer arno a’i adael yn wlych dros nos.
- Yna hidlo’r trwyth i sosban a’i godi i’r berw cyn ychwanegu llefrith oer ato a’i ferwi drachefn.
- Ei flasu â halen a siwgr cyn ei fwyta.
- neu
- Gogryn y blawd ceirch, tywallt llefrith arno a’i ferwi am ryw ddeng munud.
- Ei flasu â halen a siwgr.
Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.
‘Roedd hwn yn cael ei gyfrif yn fwyd ysgafn a maethlon, ac yn addas i’w roi i’r claf. Rhoid ef yn fwyd i’r fam hithau ar ôl geni plentyn gan fod rhinwedd ynddo i’w helpu i fagu llaeth ar gyfer baban sugno.
Banwy Uchaf, Trefaldwyn.
*Ni fyddid yn pwyso nac yn mesur y defnyddiau hyn; yn hytrach, gweithredid yn ôl profiad a chwaeth bersonol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment