Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion



  • blawd ceirch 

  • dŵr oer

  • halen



Dull



  • Rhoi dŵr oer ac ychydig o halen mewn sosban, a chodi’r dŵr i’r berw.

  • Gollwng blawd ceirch, fesul ychydig, i’r dŵr berw gan gymysgu’r blawd i mewn i’r dŵr â llwy bren. (Y mae hyn yn rhwystro’r blawd rhag mynd yn dalpiau.)

  • Parhau i ychwanegu blawd ceirch nes gwelir yr uwd yn tewhau.

  • Berwi’r uwd yn araf am amser hir gan roi tro iddo bob hyn a hyn.



Byddid yn ei fwyta mewn llefrith neu laeth enwyn oer.

Mynytho, Llŷn.



Byddid yn rhoi hanner llond cwpan o reis yn yr uwd, weithiau, i’w ysgafnhau.

Llanuwchllyn, Meirionnydd.



Uwd a gai’r gweision i swper bob nos yn rheolaidd yn Llŷn, sir Gaernarfon, ac mewn llawer ardal arall yng ngogledd Cymru. Rhoid y crochan uwd ar ddarn o bren ar ganol y bwrdd a chai pob un ei helpu ei hun ohono, e.e. Uwchmynydd, Llŷn.



Uwd amrwd y gelwid yr uwd na chafodd ei ferwi am ddigon o amser. Yr oedd hi’n ddefod ar rai ffermydd i roi’r crochan uwd ar y tân yn union ar ôl te prynhawn er mwyn iddo gael mud-ferwi am ddwy awr neu ragor cyn swper. Clywir adrodd y rhigymau canlynol i ddisgrifio’r tân yn y cyswllt hwn:



Tân llym o dan y llymru

Tân mall wna’r uwd yn well.



Freshdân dan llymru

Moed-dân dan uwd.

Dyffryn Ardudwy a Rhydymain, Meirionnydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw