Sucan Gwyn
Sucan Gwyn
Disgrifiadau
Cynhwysion
- llond dysgl o flawd ceirch
- chwart o ddŵr oer
- hanner llond cwpan o laeth enwyn
- peint o ddŵr oer
- ychydig o siwgr a sinsir
Dull
- Rhoi’r blawd ceirch yn wlych yn y dŵr oer a’r llaeth enwyn a’i adael i suro am ddwy noson.
- Yna tywallt y dŵr sydd ar wyneb y trwyth i ffwrdd, hidlo llond dwy lwy fwrdd o’r trwyth drwy ogr mân ac ychwanegu peint o ddŵr oer ato. Rhaid i’r sucan gwyn fod ‘mor denau â llefrith’.
- Ei flasu â siwgr a sinsir a’i ferwi am ryw ddeng munud.
- Gellir cadw gweddill y trwyth yn ffres am rai diwrnodau drwy dywallt dŵr glân arno’n rheolaidd.
Mynytho, Caernarfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment