Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y mae gwneud bara ceirch yn hen grefft sydd yn nodweddiadol o’r Alban, o Loegr, o Gymru ac o Iwerddon fel ei gilydd, ond mae gan bob gwlad, ac yn wir llawer sir ac ardal o fewn yr un wlad, ei mân amrywiadau arni. Wrth reswm, yr un yw’r grefft yn ei hanfod – rhaid cael y defnyddiau crai, sef blawd ceirch a dŵr, eu gwneud yn does, llunio hwnnw’n dorthau, a’u crasu. Y nod yw llunio torth denau, gron a’i hymyl mor llyfn â phlât, ac y mae cyfrinach y grefft honno ynghlwm wrth y dull a arferir i yrru ac i lunio’r dorth. Y mae’n dra thebyg fod dau ddull gwahanol wedi’u mabwysiadu yng Nghymru, y naill yn cael ei arfer heddiw yn sir Feirionnydd (ac sydd yn nodweddiadol o siroedd gogledd Cymru yn gyffredinol), a’r llall a fyddai’n cael ei arfer mewn rhai ardaloedd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi.
Disgrifir y ddau ddull hyn yn y cyfarwyddiadau canlynol:

Cynhwysion

llond cwpan wy o ddŵr claear
hanner llond llwy de o doddion cig moch
tua thri llond dwrn o flawd ceirch


Dull

Toddi’r saim yn y dŵr a gollwng y blawd ceirch iddo yn raddol gan dylino’r cymysgedd yn does meddal.
Taenu ychydig o flawd ceirch ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i foldio rhwng y ddwy law i ffurf ‘cocyn’ bychan.
Yna ei ledu â chledr y llaw a’i ffurfio’n dorth gron o dua maint soser go fawr.
Yn awr defnyddier rholbren i yrru’r dorth, ac wrth ei gyrru ei lletroi bob hyn a hyn, sef rhoi rhyw chwarter tro iddi ar y bwrdd, gan wasgu ymyl y dorth â blaen bysedd y llaw dde i’w rhwystro rhag cracio.
Rhoi’r dorth derfynol (o’r un maint â phlât cinio go fawr) o’r neilltu i galedu rhyw gymaint cyn ei chrasu.
Crasu’r dorth ar radell weddol boeth a’i throi i’w chrasu’n gyson ar y ddwy ochr.
Yna rhoi’r dorth i sychu a chaledu mewn lle cynnes.

Y Bala, Meirionnydd.

Dull cyffredin o fwyta’r bara ceirch hwn yn siroedd gogledd Cymru oedd rhoi darn o dorth geirch naill ai rhwng dwy frechdan wen neu wyneb yn wyneb ar un frechdan wen. Amrywiai’r enwau a roddid ar y rhain, e.e., ‘brechdan gaerog,’ ‘brechdan linsi,’ brechdan fetal,’ ‘piogen’ a ‘pioden’.

Ni roid unrhyw fath o saim yn y bara ceirch a ddefnyddid yn sylfaen i’r brwes, y siot a’r picws mali; yr un oedd y grefft o’i wneud ond ni fyddid yn gyrru’r torthau mor denau â’r un a ddisgrifir uchod.

Cynhwysion

blawd ceirch
dŵr oer


Dull

Rhoi mesur da o flawd ceirch mewn dysgl a’i wlychu’n raddol â dŵr oer i wneud toes gweddol sych.
Maeddu’r toes yn dda er mwyn i’r blawd lynu’n dynn yn ei gilydd.
Yna rhoi’r toes ar bwrdd a’i rholio allan â’r ddwy law nes ffurfio un rholyn hir.
Rhannu’r rholyn hwn yn ddarnau bach cyfartal a’u ffurfio’n beli bach crwn.
Lledu pob un o’r peli, fesul dwy, drwy eu gwasgu a’u troi, un o dan bob llaw, nes y don’t i’r un maint â soser go fawr.
Yna rhoi’r naill dorth ar ben y llall, â thrwch o flawd ceirch rhyngddynt, nes cael pentwr o ryw ddeuddeg ohonynt.
Gan ddefnyddio’r llaw chwith i gadw ymyl y pentwr yn grwn, lledu’r torthau gyda’i gilydd â’r llaw dde ac fel y lleda’r torthau defnyddio’r fraich (o’r benelin hyd at yr arddwrn) i’w lledu i’r un maint â phlât cinio.
Rhoi chwarter tro i’r pentwr bob hyn a hyn wrth ei ledu.
Yna gwahanu’r torthau oddi wrth ei gilydd, glanhau’r blawd sych oddi ar bob un a’u crasu, fesul un, ar blanc gweddol boeth.
Eu rhoi i sychu mewn lle cynnes.

Glan-y-fferi, Caerfyrddin.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw