Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion

pwys o flawd plaen
owns o ymenyn
owns o lard
pedwar wy
ychydig o laeth
(cyrens)


Dull

Gogryn y blawd i ddysgl.
Toddi’r ymenyn a’r lard ar soser a’u harllwys i bant yng nghanol y blawd.
Curo’r wyau mewn ychydig o laeth, eu harllwys yn raddol i’r blawd gan gymysgu’r defnyddiau’n drwyadl nes cael cytew o’r un ansawdd â hufen tew.
Ychwanegu ychydig o ddŵr at y cytew cyn gorffen ei guro, i’w wneud yn ysgafn.
Toddi owns o saim ar ffreipan neu blanc, ac arllwys hanner llond cwpan o’r cytew arni. (Gellir rhoi ychydig o gyrens yn y cytew wrth ei grasu, yn ôl y dewis.)
Gadael i’r cytew grasu nes gweld tyllau bach yn ymddangos ar yr wyneb cyn troi’r ffroesen wyneb i waered i’w chrasu ar yr ochr arall.
Yna ei chodi a’i rhoi ar blât mawr, a thaenu ychydig o ymenyn a siwgr arni.
Parhau i grasu gweddill y cytew yn yr un modd, a rhoi’r ffroes yn bentwr, un ar ben y llall, i’w cadw’n gynnes.


Ffroes eira

Cymysgu llond cwpan o eira glân i mewn i’r cytew uchod yn lle dŵr. Yr oedd yr eira yntau’n ei ysgafnhau.

Dowlais, Morgannwg.

Yr oedd cael ffroes i de yn rhan annatod o ddathlu penblwydd pob aelod o’r teulu yn ardal Dowlais ac mewn llawer ardal arall yn ne Cymru.


Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw