Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion

pwys o flawd plaen
ychydig o halen
ychydig o nytmeg
tair owns o siwgr
pedair owns o ymenyn
tri wy
ychydig o laeth cynnes
dau lond llwy de o bowdr codi


Dull

Cymysgu’r blawd, yr halen, y siwgr a’r nytmeg mewn padell gynnes a rhwbio’r ymenyn i mewn iddynt.
Curo’r wyau’n drwyadl ac ychwanegu ychydig o laeth cynnes atynt.
Gwlychu’r defnyddiau sych yn raddol â’r wyau a’r llaeth a’u curo’n dda â llwy bren nes cael cytew llyfn. Os gwelir ei fod yn rhy dew, gellir ychwanegu ychydig o laeth cynnes eto.
Gadael i’r cytew hwn aros am hanner awr.
Iro’r maen (neu’r radell) a’i boethi.
Pan fo’r maen yn weddol boeth, cymysgu’r powdr codi i mewn i’r cytew ond ni ddylid ei guro.
Yna codi’r cytew ar unwaith fesul llwyaid, a’i arllwys yn ofalus ar y maen gan geisio cadw’r ffroes yn grwn.
Pan welir bod wyneb uchaf y ffroes wedi caledu gellir eu troi wyneb i waered a’u crasu ar yr ochr arall.
Yna eu codi i blât, taenu ymenyn a siwgr arnynt, a’u cadw’n gynnes.
Parhau i grasu gweddill y cytew yn yr un modd.

Abercynon, Morgannwg.

Y mae gwlychu blawd â wyau a llefrith neu laeth enwyn i wneud cytew a’i grasu’n deisennau crwn ar y radell, neu’r maen, yn gyffredin iawn trwy Gymru gyfan, ond y mae’r enwau a roir ar y teisennau yn amrywio’n fawr o sir i sir, ac o ardal i ardal.

Pancakes yw’r enw cyffredin arnynt yn Saesneg ond arferir yr enwau canlynol arnynt yn Gymraeg:

cramwythen ll. cramoth (rhannau o siroedd Caerfyrddin a Morgannwg)
crempog ll. crempogau (siroedd gogledd Cymru yn gyffredinol)
ffroesen ll. ffroes (rhannau o sir Forgannwg)
poncagen ll. poncagau (rhannau o sir Aberteifi)
pancogen ll. pancocs (rhannau o sir Benfro)
pancosen ll. pancos (rhannau o siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw