Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion

pedair owns o flawd
tair owns o siwgr
ychydig o halen
un wy ac ychydig o lefrith neu laeth enwyn a chwarter llond llwy de o soda pobi


Dull

Rhoi’r defnyddiau sych mewn dysgl.
Curo’r wy yn dda a thywallt y llefrith arno (neu gymysgu’r soda pobi â’r llaeth enwyn).
Gwneud pant yng nghanol y defnyddiau sych, tywallt y llaeth enwyn neu’r llefrith a’r wy iddo’n raddol, gan guro’r defnyddiau sych i mewn i’r gwlybwr â fforc nes cael cymysgedd heb fod yn rhy wlyb.
Cynhesu’r radell o flaen llaw, ei hiro’n dda a chodi’r cymysgedd arni fesul llond llwy bwdin (neu ei dywallt allan o jwg, yn ôl y dewis).
Gadael i’r leicecs grasu nes bod swigod bach yn codi ar yr wyneb a’r ochr isaf wedi troi’n felyngoch.
Yna eu troi â chyllell i’w crasu ar yr ail ochr.
Eu codi i blât neu ddysgl, taenu ymenyn arnynt a’u bwyta’n gynnes.

Y Bala, Meirionnydd.

‘Roedd leicecs yn rhan o’r ‘te croeso’ a roid i ymwelwyr yn siroedd Dinbych, Meirionnydd a Threfaldwyn. Â’i gwraig y tŷ ati i’w gwneud ar ôl i’r ymwelwyr gyrraedd, ac fe’u caent yn gynnes gyda ‘phanaid o de.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw