Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion

hanner pwys o flawd
pedair owns o ymenyn
dwy owns o siwgr
un wy
dwy owns o gyrens
chwarter llond llwy de o halen
hanner llond llwy de o soda pobi
llaeth enwyn neu lefrith


Dull

Rhoi’r blawd mewn dysgl a rhwbio’r ymenyn iddo.
Ychwanegu’r holl ddefnyddiau sych a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
Curo’r wy mewn dysgl arall.
Gwneud pant yng nghanol y defnyddiau sych, tywallt y llaeth enwyn a’r soda pobi iddo, a thywallt yr wy i mewn i’r llaeth enwyn.
Gweithio’r defnyddiau sych i mewn i’r gwlybwr, a’u cymysgu â llaw nes cael toes meddal.
Taenu ychydig o flawd ar fwrdd pren, moldio’r toes arno a’i ledu â llaw nes llunio cacen gron o ryw hanner modfedd o drwch.
Ei chrasu ar radell weddol boeth a’i lled-droi bob hyn a hyn i’w chrasu’n gyson.
Yna ei throi a’i chrasu ar yr ail ochr.
Hollti’r gacen a thaenu ymenyn arni cyn ei bwyta.


Y Bala, Meirionnydd.

Ar adegau pan oedd bara’n brin neu pan ddisgwylid ymwelwyr i de prynhawn y gwneid y gacen hon yn Meirionnydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw