Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion


pwys o flawd codi
pedair owns o ymenyn
pedair owns o lard
pedair owns o gyrens
pedair owns o siwgr
ychydig o nytmeg
chwarter llond llwy de o halen
un wy
llaeth


Dull

Rhoi’r blawd mewn dysgl a rhwbio’r ymenyn a’r lard iddo.
Ychwanegu’r holl ddefnyddiau sych a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
Curo’r wy mewn dysgl arall ac ychwanegu ychydig o laeth ato.
Gwneud ‘llygad’ yng nghanol y defnyddiau sych, ac arllwys yr wy ar llaeth iddo.
Gweithio’r defnyddiau sych i mewn i’r gwlybwr a’u cymysgu â llaw nes cael toes medal, ysgafn.
Taenu ychydig o flawd ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i yrru â rholbren i ryw chwarter modfedd o drwch.
Torri’r toes yn deisennau bychain, crwn.
Gan mai wyneb uchaf y teisennau fyddai’n crasu gyntaf yn y ffwrn dun o flaen y tân gynt, gellir arbrofi heddiw drwy eu crasu yn yr un modd o dan y gridyll.
Rhoi’r teisennau’n rhesi mewn tun a’u lleoli’n ddigon isel o dan wres weddol ‘siarp’.
Pan welir eu bod wedi codi ac wedi crasu’n felyngoch ar yr wyneb, eu troi, a’u crasu ar yr ail ochr eto yn yr un modd.

Corneli Uchaf, Morgannwg.

Y mae gwragedd Morgannwg wedi bod yn gwneud y teisennau a adnabyddir gennym yn gyffredin fel Welsh Cakes ers canrif a mwy. Ar un adeg byddent yn cael eu bwyta’n gyson yn y ffermdai a’r bythynnod fel ei gilydd, a byddai’r glöwr yn hoff o’u cael yn ei focs bwyd. Er mor gyffredin oedd y teisennau hyn drwy’r sir yn gyfan, nid yr un oedd y dull o’u crasu ymhob ardal. Eu crasu ar y maen o flaen tân agored oedd y dull mwyaf cyffredin, efallai, a gelwid hwy yn ‘pice ar y mân’, ‘tishan ar y mân’, a ‘tishan lechwan’ (llechfaen) yn ôl yr enw a arferid ar y maen o ardal i ardal. Byddai eu maint yn amrywio o deisennau bychain i rai mawr o’r un maint â’r maen. Mewn rhai ardaloedd ym Mro Morgannwg fodd bynnag, cresid hwy mewn ffwrn dun (Dutch oven) o flaen y tân. Cacennau wedi’u torri’n rhai bychain, crwn oedd y rhain, ac fe’u cresid yn rhesi ar waelod y ffwrn o flaen tân coch. Byddai eu henwau’n amrywio eto: ‘pice/pica bach’, ‘tishan gron’, neu ‘tishan rown’. Cawsant yr enwau ‘slashers’ a ‘tishan whîls’ mewn rhai pentrefi.


Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw