Cacen Gneifio neu Ddyrnu
Cacen Gneifio neu Ddyrnu
Disgrifiadau
Cynhwysion
- tri llond cwpan mawr o flawd plaen
- hanner pwys o siwgr
- hanner pwys o doddion cig moch
- blaen llwy de o soda pobi wedi’i gymysgu mewn ychydig o ddŵr cynnes a llaeth enwyn
- pwys o ffrwythau sych (cyrens a resins)
- dau neu dri wy
- llaeth enwyn
Dull
- Rhwbio’r lard i’r blawd a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt.
- Curo’r wyau a’u tywallt i bant yng nghanol y blawd ynghyd â’r soda pobi.
- Cymysgu’r defnyddiau’n dda gan ychwanegu llaeth enwyn yn ôl y galw nes cael cymysgedd cymharol wlyb.
- Iro tun ymyl-uchel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn popty gweddol boeth am ryw awr a hanner.
Llanerfyl, Maldwyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment