Cacen Gneifio
Cacen Gneifio
Disgrifiadau
Cynhwysion
- hanner pwys o flawd plaen
- chwech owns o siwgr llaith
- pedair owns o ymenyn
- croen hanner lemon (wedi’i falu)
- un wy wedi’i guro
- chwarter peint o laeth
- llond llwy de o bowdr codi
- dau llond llwy de o hadau carwe
- ychydig o nytmeg
Dull
- Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u gwlychu â’r llaeth a’r wy.
- Iro tun ymyl-uchel a gorchuddio’i waelod a’i ochrau â haen o bapur ymenyn.
- Rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr o amser.
Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment