Teisen Lap (Mynydd Cynffig)
Teisen Lap (Mynydd Cynffig)
Disgrifiadau
Cynhwysion
- peint o hufen sur
- pedwar llond llwy fwrdd o flawd codi
- pedair owns o siwgr
- tair owns o ymenyn
- pedair owns o syltanas
- un wy
Dull
- Rhwbio’r ymenyn i’r blawd a’u cymysgu i mewn i’r hufen sur ynghyd â’r defnyddiau eraill.
- Curo’r wy’n dda a’i ychwanegu at y cymysgedd uchod ar y funud olaf cyn arllwys y cyfan i dun bas.
Mewn ffwrn dun o flaen y tân y cresid y deisen hon gynt. Cymerai tua awr a chwarter i’w chrasu’n araf o flaen tân coch. Nid oedd angen ei throi, ac ni ddylid ei bwyta am ddiwrnod ar ô lei chrasu.
Gellir arbrofi heddiw drwy ei chrasu’n araf mewn tun o dan ridyll ffwrn nwy neu drydan, neu mewn ffwrn isel ei gwres.
Mynydd Cynffig, Morgannwg.
Teisen hufen oedd yr enw a roid ar y deisen hon mewn rhai ardaloedd ym Morgannwg.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment