Skip to main content

Teisen Dorth (Margam, Morgannwg)

Disgrifiadau

Cynhwysion

toes bara cyffredin
lard (neu ymenyn)
siwgr coch
cyrens
resins
ychydig o sbeis
un wy

Dull

Cadw darn o does o’r neilltu ar ôl iddo godi ar ddiwrnod crasu bara.
Gweithio ychydig o lard neu ymenyn i mewn i’r toes a chymysgu’r defnyddiau eraill i mewn iddo.
Gwlychu’r cyfan ag wy wedi’i guro, a’i adael i godi am ychydig o amser.
Rhoi’r ‘toes’ hwn mewn tun a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth yn yr un dull â chrasu bara cyffredin.

Yr oedd hwn yn ddull hawdd o wneud teisen dorth ar gyfer y cynhaeaf pan nad oedd amser i gymysgu teisen yn y dull arferol.
Margam, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
841
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment