Skip to main content

Torth Fraith

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd
ychydig o halen
ychydig o siwgr coch
hanner pwys o gyrens
hanner pwys o resins
llond llwy fwrdd o driog du
owns o furum
dŵr cynnes
(ychydig o lard neu ymenyn)

Dull

Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a dŵr cynnes a’i adael i godi mewn lle cynnes am ychydig o amser.
Rhoi’r blawd a’r halen mewn padell ynghyd â’r defnyddiau sych eraill, eu cymysgu’n drwyadl a gwneud lle yn eu canol i dderbyn y burum.
Tywallt y burum iddo.
Toddi’r triog mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i ddefnyddio’n raddol i wlychu’r cyfan nes cael ‘toes’ meddal. (Gellir toddi ychydig o ymenyn neu lard yn y dŵr yn ogystal â’r triog, os dymunir.)
Tylino’r toes yn dda a’i adael i godi mewn lle cynnes am awr neu ragor.
Ail dylino’r toes ar fwrdd pren a’i roi mewn tun cynnes sydd wedi’i iro ymlaen llaw.
Gadael i’r torth godi am ychydig o amser eto cyn ei rhoi mewn popty gweddol boeth i’w chrasu.

Byddid yn torri’r dorth hon yn dafelli a thaenu ymenyn arnynt.
Uwchmynydd, Caernarfon.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
802
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment