Teisen Lap (Pen-prysg, Morgannwg)
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys o flawd plaen
hanner pwys o lard (neu chwarter pwys o ymenyn a chwarter pwys o lard)
llond cwpan mawr o siwgr coch
llond cwpan o gyrens
ychydig o halen
ychydig o nytmeg
dau wy
llaeth enwyn
Dull
Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl.
Curo’r wyau’n dda, gwneud ‘llygad’ yng nghanol y defnyddiau a’u harllwys iddo.
Eu cymysgu â llwy bren, gan ychwanegu’r llaeth enwyn yn ôl y gofyn. Rhaid i’r cymysgedd hwn fod yn ddigon gwlyb fel y gellir ei arllwys o’r ddysgl i’r tun i’w grasu. (Y mae ei ansawdd yn fwy tebyg i gytew crempog nag i’r hyn a baratoir ar gyfer gwneud teisen gyffredin.)
Arllwys y cyfan i dun bas a chrasu’r deisen mewn ffwrn weddol boeth.
Pen-prysg, Morgannwg.
Y dull traddodiadol o grasu’r deisen hon yn ardal Pen-prysg, Pen-coed oedd arllwys y cymysgedd i’r tun bas sydd ar waelod ffwrn dun (Dutch oven), a’i grasu’n araf o flaen tân coch. Ni ddylai’r ffwrn fod yn rhy agos i’r tân; rhaid oedd i’r deisen gael amser i godi a chrasu drwyddi cyn y gellid ei throi wyneb i waered i’w chrasu ar yr ail ochr.
Gan mai wyneb uchaf y deisen oedd yn crasu gyntaf yn y dull hwn gellid arbrofi heddiw drwy ei chrasu hi yn yr un modd o dan ridyll popty nwy neu drydan. Rhoi’r cymysgedd mewn tun a’i leoli’n ddigon isel o dan y gwres.
‘Roedd teisen lap yn cael ei chyfrif yn ‘deisen bob dydd’ ym mhentrefi glofaol de Cymru. Byddai’r glöwr yn hoff o gael darn ohoni yn ei focs bwyd a chan mai teisen laith ei hansawdd oedd hi ni fyddai’n briwsioni ar draws gweddill y bwyd.
Y mae ansawdd y deisen hefyd yn egluro ystyr yr enw teisen lap. Teisen wedi’i chymysgu yn wlyb neu yn llap ydyw, yn ôl y cyfarwyddiadau uchod: ystyr yr ansoddair llap yw gwlyb ac yr oedd yn air byw mewn rhai ardaloedd ym Morgannwg.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment