Skip to main content

Teisen Lap (Dowlais, Morgannwg)

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd plaen
ychydig o bowdr codi
ychydig o halen
hanner pwys o ymenyn ac ychydig o lard
tua thri chwarter pwys o gyrens
llond cwpan mawr o siwgr
pedwar wy
ychydig o laeth

Dull

Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl.
Gwahanu melyn yr wyau oddi wrth y gwyn, a’u curo ar wahân cyn rhoi’r nail ar ben y llall, a’u curo drachefn.
Eu harllwys i ‘lygad’ yng nghanol y defnyddiau sych, a chymysgu’r cwbl, gan ychwanegu’r llaeth, fel y bo angen, nes bod ansawdd y cymysgedd yn weddol wlyb. (Dylai’r cymysgedd ddisgyn oddi ar y llwy yn rhwydd.)
Iro tun ymyl-isel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn boeth. (Y mae’r deisen yn codi’n well o’i chrasu’n ‘siarp’.)

Dowlais, Morgannwg.

Ceir tystiolaeth am grasu’r deisen hon ar blât enamel (ac nid mewn tun) mewn rhai ardaloedd, e.e. Ystalyfera, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
880
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment