Skip to main content

Jam Gwsberys

Disgrifiadau

Cynhwysion

dau bwys o wsberys (eirin Mair)
llond wyth gwpan o ddŵr oer
saith bwys o siwgr

Dull

Arllwys y dŵr dros y gwsberys a’u berwi am hanner awr.
Ychwanegu’r siwgr atynt a’u berwi drachefn am ugain munud.
Gadael i’r jam glaearu rhyw gymaint cyn ei godi i botiau.
Rhoi gorchudd ar wyneb pob pot tra bo’r jam yn gynnes.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
1111
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment