Jam Mwyar Duon
Jam Mwyar Duon
Disgrifiadau
Cynhwysion
saith bwys o fwyar duon
saith bwys o siwgr
llond llwy gawl o ddŵr oer
Dull
Rhoi’r mwyar mewn sosban fawr, ychwanegu’r dŵr atynt a’u gadael i sefyll mewn lle cynnes am rai oriau. (Ar y pentan wrth ochr y tân y rhoid hwy gynt.)
Dylid rhoi tro i’r ffrwythau bob hyn a hyn i helpu’r sudd i ddod allan ohonynt.
Pan welir bod y ffrwythau bron codi i’r berw, rhoi’r siwgr arnynt a berwi’r cyfan yn gyflym am dair munud yn unig.
Rhoi’r jam mewn potiau cynnes ar ôl iddo glaearu.
Pontyberem, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment