Jam Riwbob
Disgrifiadau
Cynhwysion
saith bwys o riwbob
saith bwys o siwgr lwmp
sudd a chroen dau lemon
dwy owns o gnau almon
chwe chlowsen a hanner nytmeg mewn cwd mwslin
Dull
Torri’r riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd, eu rhoi mewn sosban fawr a’u gadael i sefyll mewn lle cynnes am rai oriau. (Ar y pentan wrth ochr y tân y rhoid hwy gynt.)
Pan welir bod y sudd wedi dod allan o’r ffrwyth, ychwanegu’r siwgr atynt, ynghyd â’r cnau almon wedi’i torri’n fân, a sudd a chroen y ddau lemon.
Berwi’r cyfan nes gwelir y jam yn tewhau.
Yna rhoi’r nytmeg a’r clows i sefydd ynddo tra bydd yn oeri.
Codi’r cwd allan o’r jam a rhoi’r jam mewn potiau cynnes.
Eu gorchuddio’n y dull arferol.
Pontyberem, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment