Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion

pedwar pwys o siwgr gwyn
pwys o siwgr coch
chwarter pwys o wreiddiau sinsir
llond dwrn o ddail dant y llew
tua phum coesgyn o ddail danadl poethion
tri galwyn o ddŵr
tua llond cwpan a hanner o furum tafarn
crwyn un lemon ac un oren wedi’u malu’n fân


Dull

Golchi’r dail yn lân a’u rhoi yn y dŵr ynghyd â’r holl ddefnyddiau eraill, ac eithrio’r siwgr a’r burum.
Berwi’r cyfan am ryw hanner awr.
Rhoi’r siwgr mewn padell fawr a hidlo’r trwyth berw drosto i’w doddi.
Cymryd gofal bod y siwgr wedi toddi’n llwyr cyn ychwanegu dau alwyn o ddŵr oer at y trwyth.
Gadael iddo glaearu hyd at naws gwaed cyn rhoi’r burum ynddo a’i gymysgu drwyddo’n drwyadl.
Gorchuddio wyneb y badell â lliain glân, ei rhoi mewn lle cynnes a gadael i’r burum ‘weithio’ dros nos.
Codi ‘wyneb’ y ddiod fore trannoeth cyn ei harllwys i boteli.


Gwnâi amryw o’r gwragedd a oedd yn byw ym mhentrefi glofaol de Cymru y ddiod hon yn rheolaidd i’w gwerthu o’u cartrefi. Dyma’r ddiod a oedd orau gan y glowyr er ‘torri syched’ pan gyrhaeddent adref o’r pwll glo, ac yr oedd hi’n arfer gan rai teuluoedd ei hyfed gyda’u cinio ar ddydd Sul. Deuai’r cwsmeriaid at ddrws tŷ’r sawl a’i gwnâi i brynu’r ddiod am ryw ddwy geiniog y botel.
Aberdâr, Morgannwg.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw