arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Cynhwysion

dau wy
ychydig o lefrith
ychydig o flawd


Dull

Curo’r wyau’n dda, tywallt y llefrith arnynt a’u cymysgu i mewn i’r blawd i wneud cytew heb fod yn anystwyth.
Rhoi ychydig o saim cig moch yn y badell ffrio, tywallt y cytew hwn ar y saim cynnes a’i ffrio ar y ddwy ochr.
Ei fwyta gyda chig moch wedi’i ffrio.

Nefyn, Llŷn.

Pan fyddai wyau’n brin ni fyddid yn cynnwys wyau yn y cytew bob tro; blawd a llefrith neu ddŵr fyddai’r cynnwys.
Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw