Troliod
Troliod
Disgrifiadau
- digon o flawd ceirch neu flawd plaen i wneud y nifer angenrheidiol
- cyrens (yn ôl y dewis)
- ychydig o gawl
Dull
- Rhoi’r blawd mewn dysgl ar ddiwrnod berwi’r cawl.
- Codi ychydig o’r cawl gan gynnwys y braster fydd ar ei wyneb a’i gymysgu’n raddol i mewn i’r blawd i wneud toes meddal.
- Rhannu’r toes yn ddarnau cyfartal a’u llunio’n beli bach o faint wy, dyweder.
- Rhoi’r peli hyn i mewn yn y cawl berw a’u berwi gyda’r llysiau eraill.
- Eu bwyta gyda’r cig a’r llysiau ar ôl yfed y cawl.
(Gellir cynnwys ychydig o gyrens yn y toes cyn llunio’r troliod a’u berwi yn y cawl.)
Pren-gwyn, Aberteifi.
Eu bwyta gyda’r cig a’r llysiau o’r cawl oedd yr arfer cyffredin pan fyddai’r tatws yn prinhau ym misoedd y Gwanwyn.
Cwm-bach, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment