Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion


  • gwaed nifer o wyddau

  • blawd ceirch

  • blawd plaen

  • pupur a halen

  • siwgr

  • nionyn



Dull

  • Tynnu’r croen oddi ar wddf gŵydd, sef y darn rhwng y pen a’r corf, a gwnïo un pen iddo â llinyn.

  • Cadw gwaed nifer o wyddau ar ddiwrnod eu lladd, ei roi mewn dysgl a’i guro â fforc nes iddo oeri. (Y mae’r curo yn ei rwystro rhag mynd yn dalpiog.)

  • Cymysgu llond llwy fwrdd neu ddwy o flawd plaen a blawd ceirch mewn ychydig o’r gwaed, a’i dywallt i mewn i’r gweddill.

  • Ei flasu â phupur a halen, ychydig o siwgr, a nionyn wedi’i falu’n fân.

  • Llenwi’r cwd croen â’r cymysgedd hwn a gwnïo’r pen arall.

  • Rhoi’r pwdin mewn sosbanaid o ddŵr berw a’i ferwi am ddwy neu dair awr.

  • Torri’r pwdin yn dafelli ar ôl iddo oeri a’i ffrio mewn saim cig moch.



Byddid yn ei fwyta gyda thatws neu fara ‘menyn.
Llangybi, Caernarfon.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw