Skip to main content

Stiw Cwningen

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • cwningen
  • hanner pwys o gig moch
  • moron
  • meipen
  • dau neu dri nionyn
  • owns o flawd
  • ychydig o bersli wedi’i falu’n fân
  • ychydig o saim
  • pupur a halen

Dull

  • Glanhau’r wningen yn y dull arferol, ei datgymalu a’i thorri’n ddarnau hwylus.
  • Torri’r cig moch a’r llysiau yn ddarnau bach cymedrol eu maint.
  • Rhoi’r defnyddiau hyn i gyd mewn sosban fawr, eu blasu â phupur a halen a phersli, eu gorchuddio â dŵr, a’u mud-ferwi’n araf am ryw awr a hanner.
  • Cymysgu’r blawd ag ychydig o ddŵr oer, ei dywallt i’r stiw a’i ferwi eto am ychydig o funudau.

Llŷn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
819
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment