Skip to main content

Cwningen mewn Corbys

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • cwningen
  • llond cwpan o isgell
  • ychydig o bersli, teim a deilen llorwydden
  • darnau bach o gig moch
  • toddion cig moch
  • corbys wedi’u berwi mewn dŵr

Dull

  • Glanhau’r wningen yn y dull arferol, ei datgymalu a’i thorri’n ddarnau hwylus i’w ffrio mewn toddion cig moch.
  • Ar ôl i’r cig gochi rhyw gymaint, ychwanegu’r darnau cig mocha ato, eu blasu â’r persli a’r teim a’r ddeilen llorwydden a thywallt yr isgell drostynt.
  • Rhoi clawr ar wyneb y badell ffrio a mud-ferwi’r defnyddiau nes i’r cig ddigoni.
  • Gyrru’r corbys ac arllwys y dŵr y berwid hwy ynddo drwy ogr mân i sosban.
  • Ychwanegu’r gwlybwr a fydd ar ôl yn y badell ffrio ar ôl codi’r cig allan ohoni at sylwedd y corbys.
  • Ei ferwi nes y bo’n tewhau a’i dywallt dros y cig.
  • Ei fwyta gyda thatws a maip.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
749
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment