Skip to main content

Pwdin Pys

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • hanner pwys o bys hollt
  • un wy
  • ychydig o ymenyn a siwgr
  • pupur a halen

Dull

  • Golchi’r pys yn drwyadl a’u rhoi’n wlych mewn dŵr oer dros nos.
  • Eu rhoi mewn cwdyn lliain, a’i glymu’n dynn gan adael lle i’r pwys chwyddo ynddo.
  • Rhoi’r cwdyn mewn sosban, ei orchuddio â dŵr berwedig ac ychydig o halen, a’i ferwi’n gyflym am ddwy awr tra nes y bo’r pys wedi meddalu.
  • Codi’r cwdyn allan o’r sosban a gwasgu’r dŵr ohono.
  • Arllwys y pys o’r cwdyn a’u gyrru drwy ogr mân i ddysgl.
  • Curo’r wy a’i arllwys arnynt, a’u blasu â phupur a halen, siwgr ac ymenyn.
  • Cymysgu’r defnyddiau’n drwyadl am rai munudau.
  • Rhoi’r cymysgedd hwn ar ddarn o liain wedi’i orchuddio â blawd, ei glymu’n dynn ar ffurf cwdyn, a’i ferwi eto am hanner awr arall.
  • Troi’r pwdin allan i ddysgl gynnes, ei dafellu, a’i fwyta gyda chig eidion neu gig mochyn hallt.

Yr oedd hwn yn bryd cyffredin i ginio neu i swper ar y ffermydd yn ystod misoedd y gaeaf.
Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
966
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment