Pastai Morgannwg
Pastai Morgannwg
Disgrifiadau
Cynhwysion
- peint o laeth
- dau wy
- owns a hanner o flawd
- ychydig o halen
- tair owns o gig moch wedi’i dorri’n fân
- dau lond llwy fwrdd o bersli wedi’i falu
- ychydig o gennin syfi wedi’u malu
- crwst brau
Dull
- Gorchuddio gwaleod ac ochrau dysgl bastai â’r crwst.
- Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth, codi gweddill y llaeth i’r berw, arllwys y cymysgedd blawd iddo a’i ferwi drachefn am ddwy funud. Ei droi’n gyson wrth ei ferwi i’w rwystro rhag llosgi.
- Gadael i’r cymysgedd oeri, ac yna ychwanegu’r wyau (wedi’u curo) a gweddill y defnyddiau ato.
- Arllwys y cymysgedd ar y crwst a chrasu’r bastai mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr.
Llanofer, Mynwy.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment