Skip to main content

Pastai Preseli

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • crwst brau
  • dau wy
  • hanner peint o laeth
  • llond llwy bwdin o flawd plaen
  • ychydig o halen
  • dau lond llwy fwrdd o siwgr
  • llond llwy bwdin o bersli wedi’i falu
  • owns a hanner o gig moch gwyn

Dull

  • Gyrru’r crwst yn denau a’i roi i orchuddio gwaelod ac ochrau dysgl ddofn.
  • Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth.
  • Curo’r wyau’n dda mewn basn mawr, arllwys gweddill y llaeth arnynt, ac ychwanegu’r cymysgedd blawd a llaeth, yr halen, y siwgr a’r persli, a chymysgu’r cwbl yn dda.
  • Arllwys y cymysgedd ar y crwst yn y ddysgl, torri’r cig moch yn ddarnau bach a’u rhoi ar yr wyneb.
  • Crasu’r bastai mewn ffwrn weddol boeth am hanner awr neu nes gwelir bod y cymysgedd wedi ceulo.

Bwyteid hi’n oer gyda bara ‘menyn i de yn aml.
Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
875
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment