Skip to main content

Pastai Persli

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pwys o datws wedi’u coginio a’u potsho
  • dwy owns o gig moch
  • dwy owns o gig moch wedi’i goginio
  • un winwnsyn
  • ychydig o saets wedi’i falu
  • pupur a halen
  • crwst

Dull

  • Torri’r cig moch yn ddarnau bach a’i ffrio nes y bo’r saim yn rhedeg ohono, torri’r winwnsyn yn fân i’r saim hwn a’i ffrio gyda’r cig moch.
  • Yna rhoi’r cig coch yn y badell ffrio, ysgwyd y saets drosto a’i dwymo gyda’r defnyddiau eraill cyn ychwanegu’r tatws atynt.
  • Blasu’r cyfan â phupur a halen.
  • Gorchuddio gwaelod dysgl â chrwst a’i grasu’n ysgafn cyn rhoi’r cymysgedd hwn arno.
  • Crasu’r bastai mewn ffwrn gynnes am ryw ddeng munud nes gwelir y cymysgedd yn cochi’n ysgafn.
  • Gwneud grefi a’i arllwys dros y bastai. Ei bwyta’n gynnes.

Penfro.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
762
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment