Skip to main content

Pastai Neithior

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • deuddeg owns o flawd plaen
  • pum owns o lard
  • hanner pwys o gig dafad wedi’i ferwi ac wedi’i dynnu oddi ar yr asgwrn
  • winwnsyn
  • llond llwy de o halen
  • llond llwy de o lysiau cymysg
  • ychydig o ddŵr
  • ychydig o’r dŵr y berwid y cig ynddo

Dull

  • Hidlo’r blawd a’r halen i ddysgl fawr.
  • Toddi’r lard yn y dŵr mewn sosban uwchben gwres isel, ei godi i’r berw a’i arllwys ar unwaith i’r blawd.
  • Cymysgu’r lard toddedig i mewn i’r blawd â chyllell a’i dylino â llaw nes cael crwst llyfn.
  • Gyrru’r crwst â rholbren a’i roi yn haen dros waelod ac ochrau dysgl bastai.
  • Torri’r cig a’r winwnsyn yn ddarnau bach, eu rhoi ar y crwst, eu blasu â’r llysiau a’r halen ac ychydig o’r dŵr y berwid y cig (ar yr asgwrn) ynddo.
  • Rhoi haen arall o grwst ar wyneb y ddysgl, selio ymyl y bastai a gwneud hollt ar ganol y crwst uchaf.
  • Ei chrasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr o amser.

Ym Mro Gŵyr, ‘r oedd hi’n arfer i ‘werthu’ darnau o’r bastai hon yn ystod y wledd a gynhelid yng nghartref y wraig ifanc ar noson ei phriodas. Deuai gwragedd yr ardal at ei gilydd yno i baratoi a gwneud nifer o basteiod ymlaen llaw, a byddai un o’r ffermwyr lleol yn lladd dafad yn arbennig er mwyn iddynt gael cig i’w roi ynddynt.

Penodid ‘gwahoddwr’ a fyddai’n gyfrifol am wahodd cymdogion a ffrindiau’r teulu i’r wledd ac ef a gofnodai’r union swm a delid gan bob gwestai am ddarn bach o’r bastai – rhyw bum neu ddeg swllt, fel rheol.

Dibynnai’r pâr ifanc ar yr arian hwn i’w helpu ‘i ddechrau ar eu byd’. Maes o law, byddent hwy yn gorfod talu’r union swm yn ôl pan wahoddid hwy i wledd gyffelyb, a hwythau yn nyled y teulu hwnnw.

Bwyteid y bastai yn oer yn ystod y wledd a cheid cyflenwad da o gwrw i’w yfed gyda hi.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
790
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment