Skip to main content

Mwtrin

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • tatws
  • rwden, pys, neu foron
  • halen

Dull

  • Glanhau’r tatws, y rwden, neu’r moron, a’u torri’n ddarnau heb fod yn rhy fân. (Rhoi’r pys yn wlych mewn dŵr oer dros nos cyn eu defnyddio.)
  • Lled-ferwi’r rwden, y pys neu’r moron mewn dŵr a halen cyn ychwanegu’r tatws atynt a’u cyd-ferwi am ryw chwarter awr nes y bônt yn ddigon.
  • Tywallt y dŵr oddi arnynt a’u chwalu â ‘mopren’.
  • Bwyta’r mwtrin gyda chig moch wedi’i ffrio.

Yr oedd hwn yn bryd cyffredin i ginio.
Mynytho, Llŷn.

‘Stwnsh’ yw’r enw ar y bwyd hwn mewn ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru; paratoir ‘stwnsh rwdan’, ‘stwnsh pys’ a ‘stwnsh moron’ yn yr un dull â’r uchod.

Mopren – pren arbennig a ddefnyddid i chwalu tatws. ‘Roedd enw’r pren hwn yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r wlad, e.e. ‘mutrwr tatws,’ ‘pwnner,’ ‘stwnsher’.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
1639
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment