Tatws Stêm
Tatws Stêm
Disgrifiadau
Cynhwysion
- tatws wedi’u torri’n ddarnau gweddol o faint
- nionod
- cig moch
- ychydig o flawd
- dŵr
Dull
- Llenwi sosban â haen o datws a haen o nionod bob yn ail, gan roi haen o datws yn uchaf.
- Ysgwyd ychydig o flawd dros y tatws cyn rhoi sleisennau o gig moch ar eu hwyneb.
- Tywallt dŵr i orchuddio’r haen olaf o datws cyn rhoi papur ymenyn dros y cig moch, a gwasgu’r defnyddiau’n dynn ar ei gilydd â phlât.
- Rhoi caead ar wyneb y sosban a mud-ferwi’i chynnwys.
Yr oedd hwn yn bryd cyffredin i ginio neu swper ym Mhorth Dinllaen.
Nefyn, Llŷn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment