Skip to main content

Tatws Popty

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • darn o gig ffres (cig eidion fel rheol)
  • tatws
  • nionyn
  • dŵr

Dull

  • Rhostio darn o gig ffres mewn tun mawr yn y popty am ryw awr neu ragor.
  • Rhoi’r tatws o amgylch y cig ynghyd â’r nionyn (wedi’i falu’n fân), a thywallt ychydig o ddŵr berwedig drostynt.
  • Rhoi caead dros wyneb y tun a choginio’r cyfan nes y bo’r cig wedi’i rostio’n drylwyr a’r tatws wedi cochi.

Mynytho, Llŷn.

Y mae’r dull o goginio’r pryd hwn yn amrywio.
Dyma gyfarwyddyd o ardal Garnfadrun:

  • Llenwi gwaelod y tun cig â thatws a nionod, a’u gorchuddio â dŵr. Rhoi darn mawr o gig eidion neu gig dafad ar wyneb y tatws a rhostio’r cwbl yn y popty.

Cyfrifid hwn yn ginio arbennig ar gyfer diwrnod dyrnu.
Garnfadrun, Llŷn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
1287
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment