Skip to main content

Tatws Pum Munud

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • sleisennau o gig moch
  • tatws
  • nionod
  • pupur a halen
  • ychydig o beilliaid
  • dŵr

Dull

  • Ffrio sleisennau o gig moch ar y badell ffrio a’u codi i blât.
  • Torri’r tatws a’r nionod ar draws a’u ffrio yn saim y cig moch.
  • Eu blasu â phupur a halen a thaenu ychydig o beilliaid drostynt.
  • Yna tywallt dŵr i orchuddio’r tatws yn y badell cyn rhoi’r sleisennau cig yn ôl ar eu hwyneb.
  • Eu coginio’n araf nes y bo’r dŵr wedi sychu a’r tatws wedi cochi.

Cyfrifid hwn yn bryd blasus i ginio.
Mynytho, Llŷn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
1131
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment