Tato Rhost
Disgrifiadau
Cynhwysion
- tato
- sleisennau o gig moch
- winwns neu gennin syfi
- ychydig o ddŵr
Dull
- Rhoi tair neu bedair sleisen drwchus o gig moch ar waelod sosban, eu gorchuddio â haen o dato a rhoi winwns wedi’u sleisio ar wyneb y tato.
- Ychwanegu haen arall o dato ac o winwns gyda haen arall o gig moch eto ar y wyneb.
- Eu mud-ferwi’n araf mewn ychydig o ddŵr gan adael i’r dŵr sychu ac i’r tato gochi yn saim y cig moch.
Pren-gwyn, Aberteifi.
Paratoid y pryd hwn mewn ‘ffwrn fach’, math ar grochan bach a grogai uwchben y tân. O’r herwydd nid oedd angen llawer o sylw a gofal arno. Yr oedd ‘tato rhost a llaeth enwyn’ yn ginio arbennig ar ddiwrnod corddi yn yr haf.
‘Tato pobi’ yw’r enw ar y bwyd hwn mewn rhan arall o sir Aberteifi, e.e.
Cellan, Aberteifi.
Cig ar wyneb tato – y mae’r pryd hwn eto yn cyfateb i’r un a elwir yn ‘dato rhost’, ond y mae’r dull o’i baratoi yn amrywio ryw gymaint weithiau. E.e., lled-ferwi’r tato mewn sosban drwchus cyn rhoi sleisennau o gig moch ar eu hwyneb. Torri’r winwns neu’r cennin syfi yn fân ar wyneb y cig moch, rhoi’r caead yn dynn ar y sosban a choginio’r cyfan mewn ychydig iawn o ddŵr am ryw hanner awr. Bydd y braster o’r cig moch wedi ymdreiddio drwy’r tato a’u cochi ar waelod y sosban.
Crug-y-bar, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment