Cig Moch, Iau a Nionod
Cig Moch, Iau a Nionod
Disgrifiadau
Cynhwysion
- hanner pwys o gig moch
- pwys o iau
- nionod
- halen a phupur
- ychydig o flawd gwyn
Dull
- Torri’r iau’n dafelli, eu golchi, a’u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen.
- Ffrio’r cig moch yn ysgafn a’i godi i ddysgl boeth.
- Rhoi’r iau a’r nionod (wedi’u torri’n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda’i gilydd a’u codi i’r un ddysgl.
- Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i’r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu’n dda a’u berwi am ychydig funudau i wneud grefi.
- Berwi tatws mewn sosban ar wahân.
Llŷn.
Yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer ‘swper chwarel’.
Rhostryfan, Caernarfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment