Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

CYNHWYSION
afu mochyn
hanner torth o fara sych wedi’i malu’n friwsion mân
pwys neu ddau o winwns
pupur a halen
ychydig o saets
ffedog mochyn
DULL
• Malu’r afu’n fân, fân, â chyllell fawr ar fwrdd pren. (Y mae malwr yn dueddol o roi blas annymunol ar yr afu.)
• Pilio’r winwns, eu malu’n fân, a’u rhoi gyda’r afu mâl mewn padell bridd.
• Ychwanegu’r briwsion bara atynt, eu blasu â phupur a halen a saets, a chymysgu’r defnyddiau’n dda â llwy bren.
• Lledu’r ffedog allan ar fwrdd pren a’i thorri’n ddarnau o bedair i chew modfedd sgwâr, yn ôl y dewis. (Rhoid y ffedog mewn dŵr claear weithiau i’w hystwytho a’i hestyn cyn ei thorri.)
• Llunio’r ffagots drwy lapio darn o’r ffedog o amgylch tua llond llwy fwrdd o’r cymysgedd, eu rhoi ochr yn ochr mewn tun cig a’u rhostio mewn ffwrn weddol boeth.
• Eu bwyta’n gynnes gyda thatws, pys a grefi. Yr oedd hi’n ddefod i wneud y ffagots ar fore torri’r mochyn yn ardal Tonyrefail a’u cael yn barod erbyn cinio i’r bwtsiwr a’r gwŷr a fu’n ei helpu.
'Tonyrefail, Morgannwg.'

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw