Cosyn Pen
Disgrifiadau
CYNHWYSION
pen, tafod ac arennau mochyn
darn o gig eidion
dŵr
pupur a halen
DULL
• Glanhau pen y mochyn, tynnu’r llygaid allan a thorri’r clustiau i ffwrdd.
• Ei dorri’n ddarnau hwylus i’w trafod a’u gorchuddio â dŵr a halen am dri neu bedwar diwrnod.
• Yna golchi’r darnau’n lân cyn eu rhoi mewn sosban fawr i’w berwi ynghyd â’r darn cig eidion, y tafod a’r arennau.
• Berwi’r cyfan am dair awr nes gwelir y cig yn rhyddhau oddi ar yr esgyrn, ei roi mewn dysgl fawr a’i falu’n fân â chyllell.
• Ei flasu â phupur a halen, ei gymysgu’n dda a’i roi mewn dysgl bridd i oeri a chaledu. Gellir, os dymunir, ei roi mewn rhidyll bras, ei orchuddio â phlât a rhoi pwysau arno i wasgu’r braster allan ohono.
• Torri’r cosyn pen yn dafelli ar ôl iddo oeri.
'Tonyrefail, Morgannwg.'
Gellir cadw’r tafod yn gyfan ar ôl ei ferwi, tynnu’r croen oddi arno a’i roi rhwng dwy haen o’r cig mâl, a baratowyd eisoes, mewn dysgl.
'Dowlais, Morgannwg.'
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment