Skip to main content

Potes Cig Pen Oen ac Iau

Disgrifiadau

CYNHWYSION
pen oen
iau
dŵr
nionod halen
DULL
• Rhoi’r pen a’r iau i sefyll mewn
dŵr a halen dros nos.
• Drannoeth eu golchi’n lân a’u glanhau.
• Berwi’r pen a’r iau a’r nionod mewn sosban nes y bo’r cig yn rhyddhau oddi wrth yr esgyrn.
• Codi’r pen a’r iau allan o’r dŵr, tynnu’r cig oddi ar yr esgyrn, a thorri’r cig a’r iau yn ddarnau bychain (tua chwarter modfedd ar draws) a’u rhoi’n ôl yn y potes.
• Codi’r potes i ddysglau a’i fwyta’n gynnes.
'Rhostryfan, Caernarfon.'
‘Pinshons’ oedd yr enw ar y bwyd hwn yn ardal Bethel, sir Gaernarfon, ac fe’i paratoid ar gyfer ‘swper chwarel’ yno.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
887
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment