Potes Cig
Potes Cig
Disgrifiadau
CYNHWYSION
darn o gig eidion a darn o gig mochyn
hallt
moron
bresych
meipen
tatws
dŵr
DULL
• Berwi’r cig a’r llysiau (wedi’u torri’n fân) mewn sosban fawr, gan ychwanegu’r tatws atynt ryw ugain munud cyn codi’r potes oddi ar y tân.
Arferid bwyta’r cig a’r llysiau i ginio gan gadw’r potes a’i dywallt yn boeth ar fara gwyn neu ar fara ceirch i wneud brwes ar gyfer brecwast drannoeth.
'Parc, Y Bala, Meirionnydd.'
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment